Eli3


Newyddion / News:

General: Safwe Newydd / New Website

Postwyd gan Owen ar Sat-02-09 / Posted by Owen on Sat-02-09

Dyma safwe newydd Cwmni Cortyn / This Is Cwmni Cortyn's new website!


Mae Owen Glynne Davies yn gweithio o dan yr enw Cwmni Cortyn. Mae'n gweithio yn bennaf ar ei ben ei hun, ond mae wedi cydweithio gyda artistiaid eraill mewn perfformiadau Cwmni Cortyn. Mae'n defnyddio sawl math o byped - pypedau llaw, cortyn (marionet), pypedau ffon a phypedau geg-yn-symud. Hyfforddwyd i ddefnyddio pypedau ar gyfer teledu o dan gynllun "maneg" gan "cwmni'r Wennol" ym 1993. Mae ei waith teledu yn cynnwys Sang-di Fang (Teledu Tirglas), "Sdwnsh" (Dime Goch), "Miri Morio" (Opus). Mae hefyd wedi gweithio ar fideo "Glanhawyr y Gofod" (Llond Llaw), a DVD "Fflic a Fflac" (Tinopolis). Heb byped mae Owen Glynne Davies wedi defnyddio ei lais i drosleisio "Megamics" (Cwmni Sain) a'i fysedd i chwarae'r charango a'r banjo mewn grwpiau gwerin a sesiynau. Mae wedi gweithio gyda chwmniau pypedau eraill megis Living Daylights, Bysedd Prysur, Llondllaw ac yn ddiweddar Vagabondi.

Owen Glynne Davies works under the name 'Cwmni Cortyn'. Usually, he performs on his own, although he has performed with other artists in 'Cwmni Cortyn' performances. He uses many different kind of puppet - hand puppets, marionettes, stick puppets and moving mouth puppets. He was taught puppeteering under the 'Maneg' program that was provided by 'Cwmni'r Wennol' in 1993. His television work includes 'Sang-di Fang' (Teledu Tirglas), 'Sdwnsh' (Dime Goch), 'Miri Morio' (Opus). He also has worked on video, 'Glanhawyr y Gofod' (Llond Llaw) and DVD 'Fflic a Fflac' (Tinopolis). Owen Glynne Davies has used his voice to overdub 'Megamics' (Cwmni Sain) and his fingers to play the charango and banjo in various groups and sessions. He has worked with various other puppet companies such as Living Daylights, Bysedd Prysur, Llondllaw and recently, Vagabondi.

Galeri / Gallery >>